Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 8 Rhagfyr 2015
Amser y cyfarfod:
13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3492
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am
14.18
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad
ynghylch penderfyniad Orchard Media and Events Group i roi’r
gorau i drefnu Gŵyl Jazz Aberhonddu y flwyddyn
nesaf?
Dechreuodd yr eitem am 14.26
Dechreuodd yr eitem am 14.47
Dechreuodd yr eitem am 15.34
Dechreuodd yr eitem am 15.56
Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gau’r uned babanod newydd-anedig yn Ysbyty Athrofaol Cymru i gleifion newydd o ganlyniad i haint?
Dechreuodd yr eitem am 16.04
NDM5903 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Gorchymyn Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (Addasu Canlyniadol) 2015 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Tachwedd 2015.
Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.06
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5899 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru).
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
1 |
21 |
47 |
Derbyniwyd y Cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 17.15
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5900 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
1 |
21 |
46 |
Derbyniwyd y Cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 17.15
NDM5901 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru).
Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.59
NDM5902 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.
Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.59
Daeth y cyfarfod i ben am 18.00
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 9 Rhagfyr 2015